Mwy o blant yng Nghymru'n cael eu rhoi i'w mabwysiadu

  • Cyhoeddwyd
dal dwyloFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae ymgyrch frys ar droed i geisio dod o hyd i ragor o rieni mabwysiadol yn dilyn "cynnydd annisgwyl" yn nifer y plant sydd yn cael eu rhoi i'w mabwysiadu.

Cafodd 280 o blant yn ne ddwyrain Cymru eu rhoi i'w mabwysiadu yn 2016-17, cynnydd o 66%.

Yn ôl y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) mae'n batrwm sydd yn gyffredin ar draws y wlad.

Dywedodd y gwasanaeth eu bod yn chwilio'n benodol am rieni mabwysiadol ar gyfer grwpiau plant sydd yn anoddach eu lleoli.

Methu targedau

Dywedodd cyfarwyddwr NAS Cymru, Suzanne Griffiths fod y galw am fabwysiadu wedi cynyddu llynedd yn dilyn cwymp rhwng 2014 a 2016.

Bellach mae 300 o blant yng Nghymru ar restr aros i gael eu mabwysiadu, ac mae disgwyl i hynny godi i tua 370 pan fydd ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru'n cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach yn y mis.

Ychwanegodd Ms Griffiths fod y cynnydd "annisgwyl" yn rhannol oherwydd y ffordd mae dyfarniad llys ar fabwysiadu bellach yn cael ei ddehongli, a chynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu cymryd mewn i'r system ofal.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

"Ar ddiwedd y dydd rydyn ni'n teilwra'n adnoddau i ateb y galw, felly pan gwympodd hynny, fe ddigwyddodd yr un peth i'n proses o recriwtio rhieni," meddai.

"Nawr mae gwir angen i ni ddod o hyd i bobl briodol fydd yn ateb gofynion y plant sydd gennym ni."

Mae gan Lywodraeth Cymru darged o wyth mis rhwng pobl yn gwneud eu hymholiad cyntaf, i gael eu hasesu a'u cymeradwyo fel rhieni mabwysiadol posib.

Y bwriad, meddai Ms Griffiths, yw sicrhau bod rhieni wedi eu paratoi yn iawn cyn bwrw 'mlaen â mabwysiadu.

Ond ar hyn o bryd mae'r cyfartaledd amser aros yng Nghymru yn 11.1 mis.

Brodyr a chwiorydd

Dywedodd Cydweithredwyr Mabwysiadu'r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC), un o'r grwpiau rhanbarthol yng Nghymru mae NAS yn eu goruchwylio, fod y galw wedi golygu "llwyth gwaith cynyddol a diffyg lle".

Yn eu hadroddiad blynyddol o fis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017 fe ddywedon nhw fod rhai pobl yn aros dros flwyddyn i gael eu cymeradwyo fel rhieni mabwysiadol.

Dywedodd llefarydd ar ran VVC fod cynnydd yn nifer yr achosion oedd yn cael eu cyfeirio atyn nhw, a mwy o alw am wasanaethau cynorthwyol, "yn cael effaith negyddol mewn meysydd eraill".

"Gan fod hyn yn dod ar adeg pan mae llai yn gwneud ymholiadau i fabwysiadu, rydyn ni wedi sylwi ar yr effaith mae hyn wedi'i gael," meddai.

"Dyna pam ein bod ni, yn unol â blaenoriaethau NAS Cymru, wedi sicrhau bod recriwtio mabwysiadwyr yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth."

Disgrifiad o’r llun,
Mae angen mwy o rieni sy'n fodlon mabwysiadu brodyr a chwiorydd, meddai'r gwasanaeth

Yn ystod yr Wythnos Fabwysiadu Genedlaethol yr wythnos hon, mae'r gwasanaeth wedi bod yn canolbwyntio ar ganfod rhieni fyddai'n fodlon mabwysiadu grwpiau o frodyr a chwiorydd.

"Mae cymryd grŵp o frodyr a chwiorydd yn gallu bod yn gymhleth, ond elfennau positif hefyd," meddai Ms Griffiths.

"Mae rhai o'r plant wedi bod drwy gyfnodau anodd ac maen nhw'n teimlo'n fwy diogel gyda'i gilydd. Gallai pwy bynnag sy'n eu cymryd symud i fywyd teulu datblygedig yn fwy sydyn."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio'n agos a NAS er mwyn "monitro cynnydd, blaenoriaethau a pherfformiad".