Tân: Trigolion yn gorfod gadael eu fflatiau yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Granby Close fireFfynhonnell y llun, Llanelli Online

Mae trigolion mewn pedwar bloc o fflatiau wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn tân yn Llanelli.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod pawb wedi gadael ardal Clos Granby yn ddiogel.

Cafodd diffoddwyr eu galw am 17:15 i adeilad dau lawr.

Roedd pryder y byddai'r tân wedi lledu.

Aed ag un dyn i'r ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.

Cafodd pedwar o bobl eraill driniaeth ar y safle.

Mae'r heddlu wedi gosod rhwystr o 100 meter o safle'r tân.

Fe gafodd diffoddwyr o Lanelli, Gorseinon, Pont-iets, Y Tymbl a Threforys eu galw i'r adeilad dau lawr yn Clos Granby, Morfa nos Iau.

Cafodd peirianwyr nwy hefyd eu galw, wrth i'r diffoddwyr geisio rheoli'r tân.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin fod llety a bwyd wedi ei ddarparu ar gyfer y trigolion gafodd eu heffeithio.

Dywedodd y cynghorydd Linda Evans, aelod o fwrdd gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd â chyfrifoldeb am dai: "Mae ein swyddogion wedi bod yn cydweithio gyda'r gwasanaethau brys ac wedi cefnogi trigolion y fflatiau a thai cyfagos."

Mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y tân.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth neu a welodd y tân gysylltu â'r heddlu ar 101.