
Gwrando gyda bwriad – Rheol Martha i Gymru
Mis yma, ein blogiwr gwadd Dr Chris Subbe, meddyg ymgynghorol acíwt ym Mangor, sy’n trafod pwysigrwydd ‘gwrando gyda bwriad’ ac a oes angen Rheol Martha yng Nghymru.
Mae stori Martha yn dechrau yng Nghymru. Mae Martha yn ei harddegau ac ar wyliau. Mae damwain ar feic wrth ymyl Y Bermo yn arwain at anaf i’w phancreas. Ar ôl cael ei gweld gan feddygon mewn ysbytai yn Aberystwyth a Chaerdydd, caiff ei throsglwyddo i uned drydyddol yn Llundain. Roedd diffyg cyfathrebu rhwng timau yn golygu nad oedd pryderon cynyddol ei rhieni yn cael eu clywed. Cafodd Martha ataliad y galon, a bu farw’n ddiweddarach yn yr adran gofal dwys.
Mae'n stori ofnadwy. Ond yn anffodus, nid yw’n anghyffredin.
Ydych chi erioed wedi ymweld â ffrind neu berthynas yn yr ysbyty, wedi clywed sut roedden nhw’n cael eu rheoli ac yna wedi teimlo’n anghyfforddus iawn gyda rhai agweddau ar eu gofal? Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd yn y sefyllfa hon yn aml yn dod o hyd i ffyrdd o gysylltu ag uwch aelod o'r tîm neu rywun y maen nhw’n ei adnabod yn yr adran i drafod ac i wella gofal.
Mae Rheol Martha yn dweud y dylai’r llwybr hwn o godi pryder difrifol fod yn agored i staff, cleifion ac aelodau’r teulu fel ei gilydd, ac yn dilyn ymgyrch gan rieni Martha, ysgrifennodd y Comisiynydd Diogelwch Cleifion dros Loegr at yr Ysgrifennydd Iechyd ar y pryd i argymell ‘dull strwythuredig o gael gwybodaeth am gyflwr claf yn uniongyrchol oddi wrth gleifion a’u teuluoedd o leiaf bob dydd.’
Mae hyn yn golygu mynediad 24/7 at adolygiad cyflym gan dîm allgymorth gofal critigol y gall staff, cleifion, teuluoedd a gofalwyr gysylltu ag ef os oes ganddyn nhw bryderon am glaf. Dylid hysbysebu'r adolygiad cyflym 24/7 hwn gan dîm allgymorth gofal critigol o amgylch yr ysbyty ac yn ehangach fel bod cleifion a theuluoedd yn gwybod y gallan nhw gysylltu â'r tîm os ydyn nhw’n poeni am eu cyflwr. Dyma Reol Martha.
Erbyn hyn, mae Rheol Martha yn cael ei threialu mewn dros 140 o ysbytai yn Lloegr ac wedi’i hargymell ar gyfer ysbytai yng Nghymru. Mae Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi cyflwyno system ‘call 4 concern’, sy’n gysylltiedig â’r tîm allgymorth gofal critigol.
Yr hyn sy’n synnu’r rhan fwyaf o bobl yw bod nifer y cleifion ac aelodau o’r teulu sy’n codi pryderon drwy’r llwybr hwn yn fach (1–2 yr wythnos) ond yn amlach, y diffyg cyfathrebu rhwng rhieni a’r tîm gofal iechyd sy’n arwain at broblem.
Beth yw’r ‘dull strwythuredig’ o gael gwybodaeth am gyflwr claf? Mae’r safleoedd peilot yn Lloegr yn defnyddio rhywbeth sy’n cael ei alw’n ‘raddfa llesiant cleifion’. Yn ei hanfod, dyma’r cwestiwn: ‘Ydych chi’n teimlo’n well?’ gydag ymateb graddedig. Mae'n swnio'n ddibwys ond mae'n greiddiol i asesiadau dyddiol cleifion. Oes ots os yw pobl yn teimlo'n well? Canfu John Kellett a chydweithwyr yn 2017 fod ‘cleifion meddygol sy’n ddifrifol wael sy’n teimlo bod eu cyflwr wedi gwella ers eu hailasesiad cyntaf ar ôl cael eu derbyn i’r ysbyty’ wedi cael llawer llai o farwolaethau mewn ysbytai. Felly, mae'n debyg ei fod o bwys
Rydyn ni bellach wedi cynnal archwiliad sylfaenol o’r ‘cwestiwn llesiant cleifion’ mewn cannoedd o gleifion ym Mangor. Wrth gael eu cyfweld, mae’r rhan fwyaf o gleifion yn credu bod rhywun wedi gofyn iddyn nhw am eu llesiant yn ystod y 24 awr flaenorol. Yn galonogol, pan wnaethom ofyn iddyn nhw, dywedodd dros hanner y cleifion eu bod yn teimlo'n well na'r diwrnod cynt. Ond yn aml nid oedd modd dod o hyd i’w hateb i'r cwestiwn mewn cofnodion nyrsio neu feddygol. Mae'n anodd dweud a wnaeth staff wrando ar eu hateb a gweithredu arno. Menter yn ymwneud â diogelwch cleifion yw Rheol Martha, felly mae cofnodi’r ateb yng nghofnodion meddygol cleifion yn elfen hollbwysig i wella diogelwch a gofal. Byddai profiad Martha yn awgrymu y gallai hyn wneud byd o wahaniaeth.

Distribution channels: Healthcare & Pharmaceuticals Industry
Legal Disclaimer:
EIN Presswire provides this news content "as is" without warranty of any kind. We do not accept any responsibility or liability for the accuracy, content, images, videos, licenses, completeness, legality, or reliability of the information contained in this article. If you have any complaints or copyright issues related to this article, kindly contact the author above.
Submit your press release